Strategaeth filwrol yw rhyfela athreuliol[1] sydd yn defnyddio athreuliad er mwyn ceisio gorchfygu'r gelyn. Mae'r ochr sy'n defnyddio'r strategaeth hon yn brwydro'r ochr arall yn raddol nes iddynt methu o ganlyniad i golledigion parhaol o luoedd ac adnoddau milwrol. Yn ôl damcaniaethwyr milwrol clasurol megis Sun Tzu mae rhyfela athreuliol yn groes i egwyddorion traddodiadol "celfyddyd y cadfridog", sydd yn pwysleisio manwfro, crynhoi lluoedd, cudd-ymosod, twyll ac ati. Er hyn ceir athreuliad trwy gydol hanes rhyfel, yn aml er mwyn niwtralu gelyn sydd â mantais dactegol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search